Dyma gasgliad o luniau cyfareddol sy'n dod â hen Gymru yn fyw, yn lliwgar, mewn llyfr am y tro cyntaf.
Llwyddwyd i ail-greu'r gorffennol fel ag yr oedd, neu mor agos â phosib at hynny, gyda thrysorfa o luniau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r detholiad yn ddathliad unigryw o fywyd gwledig Cymru yn bennaf, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, gyda'r lluniauwedi eu dewis yn ddoeth gan Gwyn Jenkins a'u lliwio'n gelfydd gan Richard Huw Pritchard.
Ceir lluniau arbennig o bobl o bob cefndir, gan bortreadu bywyd ym mhob ardal o Gymru, yn cynnwys amaethwyr a chwarelwyr, siopwyr a helwyr, protestwyr ac eisteddfodwyr wedi eu tynnu gan rai o ffotograffwyr amlycaf eu hoes. Mae yma hefyd luniau o rai o enwogion y cyfnod, o Cranogwen i Cynan, o Ceiriog i Aneurin Bevan. Ceir hefyd gapsiynau manwl, sy'n storiau ynddynt eu hunain, yn rhoi cyd-destun difyr o baburau'r wasg yn y cyfnod.