Wrth i ni fyw drwy oes aur i bêl-droed Cymru, mae'r cefnogwyr wedi bod yn rhan greiddiol o'r cyfan. Drwy lygaid rhai o aelodau'r Wal Goch cawn flas ar ddilyn y tîm i bedwar ban; cip ar y caneuon, yr hwyl a'r ffasiwn; a golwg arbennig ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a'r Gymraeg. Mewn casgliad o ysgrifau, cerddi, dyfyniadau a lluniau, fe archwilir emosiwn, effaith a dylanwad dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol, a gwelwn sut mae'r Wal Goch wedi dod i gynrychioli'r Gymru gyfoes.
Dyma gyfrol i'ch diddori a'ch ysbrydoli wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.