Dyma gyfrol gynhwysfawr sy'n cyflwyno ardal Tregaron a'r cyffiniau gan yr awdur o Landdewi Brefi, D. Ben Rees.
Cyflwynir nifer o enwogion yr ardal, fel Henry Richard, Ambrose Bebb a Cassie Davies, ond hefyd gymeriadau llai adnabyddus y daeth yr awdur ar eu traws, boed yn feirdd, yn grwydriaid neu yn ffermwyr. Rhoddir sylw teilwng i bentrefi'r fro yn ogystal, o Lanilar i Lanfair Clydogau, o Fronnant i Fetws Bledrws.
Mae'r gyfrol yn gyfoeth o storiau a phortreadau difyr am gymwynaswyr mawr cefn gwlad Cymru gan un o'i hawduron wyaf toreithiog, a hynny'n amserol ar ddychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal.