Yn #futuregen, mae Jane Davidson yn esbonio sut, fel Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai yng Nghymru, y datblygodd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - y darn cyntaf o ddeddfwriaeth mewn hanes i osod cynaliadwyaeth wrth galon y llywodraeth. Hen ei hail o ran cwmpas a gweledigaeth, mae'r Ddeddf yn cysylltu lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ac yn ceisio datrys materion cymhleth trwy wneud gwell penderfyniadau. Wedi ei diweddaru o'r fersiwn wreiddiol, mae'r gyfrol hon yn dangos yr hyn y mae modd i wlad fechan gyflawni a sut y mae modd arloesi mewn byd mewn argyfwng.
Mae Davidson yn datgelu pam y lluniwyd deddfwriaeth o'r fath yng Nghymru, a fu unwaith yn ddibynnol ar ei diwydiannau glo, haearn a dur, ac yn archwilio sut mae'r newid o dwf economaidd traddodiadol i dwf economaidd mwy cynaliadwy yn creu cyfleoedd newydd i gymunedau a llywodraethau ledled y byd.