Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o 'Chwedlau Gwerin Cymru' gan Robin Gwyndaf
Llun o\'Chwedlau Gwerin Cymru\'
ISBN: 9781800992139
Pris: £9.99
Adran: Ffuglen, Chwedlau
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 176

Chwedlau Gwerin Cymru

Llyfr yn cynnwys dros 60 o chwedlau gwerin a llawer o wybodaeth am arferion gwerin Cymru, yn ôl eu hardal, gan gynnwys Cantre'r Gwaelod (Ceredigion), Nant Gwrtheyrn (Gwynedd), Gwenfrewi (Fflint) a marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri. Maent wedi eu hysgrifennu'n ddisglair gan yr awdur toreithiog Robin Gwyndaf gyda darluniadau lliw gan Margaret Jones.

Mae'r gyfrol hefyd yn cyfeirio at hen arferion y Cymry fel canu calennig, y Fari Lwyd, Gwaseila, Hela'r Dryw a'r Gaseg Fedi.
Bu'r gyfrol wreiddiol yn hynod boblogaidd gan fynd i sawl argraffiad o dan ofal Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

ISBN: 9781800992139
Pris: £9.99
Adran: Ffuglen, Chwedlau
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 176