Adolygiadau
Dw i'n gwybod yr hen ddywediad, 'peidiwch â beirniadu llyfr yn ôl ei glawr', ond efo hwn, roeddwn i'n gwybod byswn i'n licio'r cynnwys. Clawr sy'n adlewyrchu'r cynnwys yn berffaith, dw i'n meddwl. Mae'n lliwgar, deniadol, a hefyd yn dangos un o brif themâu'r llyfr sef cyfeillgarwch, a chyfeillgarwch rhwng merched yn enwedig.
- Francesca Sciarrillo
Llyfr sy'n 45% hunangofiant, 45% sylwebaeth gymdeithasol, 10% pure doethineb.
- Fraid Gwenllian
Dyma ymgais cwbl hyderus gan awdur sydd yn ymfalchïo yn ei amharchusrwydd, a gwrthod ufuddhau i ffiniau'r naratif sydd wedi'i 'sgrifennu ar ei chyfer. Dyma awdur sy'n agor ei breichiau llydan i'w ffrindiau, i'w theulu, i ferched Cymru, i unrhyw un sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw syniad. Fe'i disgrifir gan Marged Tudur fel 'rhodd o gyfrol' ac yn 'lythyr cariad i deulu, ffrindia, merched…'– yn wir – yn gysur o gyfrol – yn ffrind.
- Buddug Roberts
Mae hwn yn cydio was bach! Anodd iawn iawn ei roi lawr a dwi fod yn mynd allan…
- Bethan Gwanas, Twitter
[Mae Sgen i'm Syniad] fel bo ti'n gal cymorth dy chwaer sy'n edrych mas iddo ti, yn dilyn ti trwy gamgymeriadau nhw a stories hilarious. Mae'n hanfodol bod pob merch yn darllen y llyfr yma.
- Meg Grace, pagesmegreads ar Instagram
Mae'n wahanol i unrhyw beth a gyhoeddwyd yn y Gymraeg hyd yn hyn. Oes, mae gennym nofelau sy'n trafod rhyw a meddwi a chymhlethdodau carwriaethol, ond oes yna unrhyw awdur arall wedi bod yn ddigon dewr i drafod eu profiadau eu hunain mor agored ag y gwneir yma?
- Gwenan Mared
O'r hyn dw i wedi'i ddarllen hyd yma, mae'n chwa o awyr iach, ac yn onest a ffraeth. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at ei ddarllen o i gyd.
- Deio Owen, erthygl Golwg
[Dyma] un o'r llyfrau mwyaf carlamus ei gynnwys i gael ei hydoeddi yn y Gymraeg erioed, o bosib.
- Non Tudur, Golwg
Llyfr ffraeth a di-flewyn-ar-dafod sy'n cofnodi rhai o hanesion ei hieuenctid gwyllt. Nid yw'r awdur yn dal yn ol."
- Non Tudur, Golwg
Rhaid dweud bod Sgen i'm Syniad gan Gwenllian Elis wedi bod yn chwa o awyr iach. Yn ddoniol a ffraeth drwyddi draw.
- Huw Bebb, Golwg