Fields of Orange: A True Welsh Love Story
Gwyliodd Johanna Francis y Natsïaid yn cipio Amsterdam, lle roedd ei theulu cefnog yn weithgar gyda'r 'resistance', yn gwarchod teulu Iddewig ac yn rhedeg papur tanddaearol er bod pencadlys y Gestapo ar yr un stryd. Yn dilyn y rhyfel, priododd ffermwr tlawd o Gymro ac mae hanes eu carwriaeth yn rhyfeddol.