Adolygiadau
Mae'r llyfr yn codi fy nghalon gymaint, ac yn f'atgoffa i fod yna rwystrau yn ein bywydau, ond bod yn rhaid i nu ddyfalbarhau. Alla i ddim diolch digon i Non am siarad yn agored.
- Kayley Sydenham, erthygl yn Golwg
Yn sicr, dyma un o'r cyfrolau mwyaf cofiadwy a dylanwadol i mi ei darllen... Fel pawb dw i wedi siarad a nhw am y gyfrol hon, ni allwn i roi'r llyfr i lawr a darllenais i'r cyfan mewn diwrnod... Heb amheuaeth, mae'r gyfrol hon yn ymdrechu i chwalu'r stigma [iechyd meddwl], yn herio'r norm ac yn normaleiddio siarad yn agored am gyflyrau iechyd meddwl.
- Emily Evans, Ar Frig y Don - Blog Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe
Mae arddull Non mor llafar ac agos-atoch, mae'n gwneud pwnc sydd ar adegau'n ddigon dirdynnol yn hawdd darllen amdano. Byddwch chi'n teimlo fel petaech chi'n ffrind i Non erbyn diwedd y llyfr!
- Efa Mared Edwards, Cylchgrawn Cara
Dyma gyfrol onest a gyfaelgar sy'n ymdrin â phroblemau dirfawr ond sy'n gwneud hynny mewn ffordd syml a hawdd ei ddarllen... Diolch, Non, am agor dy galon ac am rannu cymaint o dy brofiadau drwy gyfrwng y llyfr arbennig hwn.
- Tegwen Morris, Cylchgrawn Weekend, y Western Mail
Mae o'n onest ac yn ddirdynnol a nefoedd wen mae o'n bwysig. Diolch Non Parry am ei ddweud o. Wedi crio ond fwy na dim byd arall wedi cytuno, dro ar ôl tro ar ôl tro.
- Nia Peris, Trydar
Y llyfr gorau dwi wedi darllen ers amser hir. Diolch o galon Non am rannu dy stori fel y brif gymeriad, gwerthfawrogi'n fawr dy onestrwydd.
- Rhian Carbis, Trydar
...[C]yfrol sy'n llawn hiwmor, gonestrwydd a ffraethineb... O'r cychwyn cyntaf, mae gan yr awdur ffordd o siarad sy'n ystwyth ac agos-atoch, nes eich bod yn teimlo eich bod yng nghwmni ffrind. Mae hi'n feistr ar y grefft o fod yn ddi-flewyn-ar-dafod, ond mewn ffordd sy'n garedig bob amser. Mae hi'n cadw'n driw at ei llais ei hun hyd y diwedd ac yn creu darluniau real o wahanol agweddau ar ei bywyd. Ac nid codi cwr y llen ar ei bywyd y mae hi yma – mae hi'n ddigon dewr i ddangos yr haenau i gyd, y da a'r drwg... Ond yr hyn sydd wedi fy nghyffwrdd i'n fwy na dim am y gyfrol hon yw sut mae'r awdur yn ymdrin â heriau iechyd meddwl. Mae ganddi ffordd arbennig iawn o gyfleu'r teimlad o arwahanrwydd ac argollrwydd sy'n dod law yn llaw â gorbryder ac iselder. Ac eto, nid crafu'r wyneb mae hi yma, ond mae hi'n trafod y mannau tywyllaf y tu mewn iddi hi ei hun, a pha mor hyll yw natur y cyflyrau hyn pan maent am y gorau i herio rhywun
- Sioned Erin Huughes, Y Cymro