Gwinllan a Roddwyd
Cyfrol sy'n sloriannu hanes bregus ac arwrol cymdeithas y Cylch Catholig o'i dechreuad hyd heddiw.
Ceir hanesion am unigolion blaenllaw a disglair a fu wrthi gyda'r Cylch fel R.O.F. Wynne, John Daniel ac wrth gwrs, Saunders Lewis. Roedd Saunders yno o'r dechrau'n deg, a gwelir nad yw ei gysgod wedi diflannu'n llwyr oddi ar hynny. Dangosir fod ymwneud Saunders â'r Cylch, fel ei ymwneud â nifer o gyrff, yn ysbrydoliaeth i lawer ond yn destun ychydig o anesmwythyd i eraill.
Amlygir yr agweddau oedd gan rai at y Cylch - yn gefnogaeth ac yn wrthwynebiad, a hynny o du'r cyhoedd, yr esgobion, a'r gymuned Gatholig Wyddelig. Olrheinir rhai o'r lleoliadau gwahanol sydd wedi chwarae rhan amlwg yn hanes y Cylch a'r bywyd Catholig Cymraeg a chloriannir disgwyddiadau a theithiau'r Cylch yn ogystal â chyfraniadau'r aelodau.