Bu Gareth Lewis yn actor am 55 mlynedd cyn iddo ymddeaol yn ddiweddar; fel Meic Pierce, rapsgaliwn Pobol y Cwm mae e'n fwyaf cyfarwydd i'r genedl. Ond fuodd Gareth ddim yn segur am yn hir iawn. Penderfynodd fynd ati i gofnodi hanes ei deulu, a bron yn ddiarwybod iddo, datblygodd y prosiect yn hunangofiant cyflawn, difyr a dwys. Yng ngeiriau Gareth, 'Y rheswm yr ysgrifennais i'r llith hwn oedd er mwyn i fy mhlant gael gwybod o ble maen nhw wedi dod a beth ydi eu cefndir nhw, ond rhywsut mi dyfodd y peth yn gyfrol eithaf swmpus.'
Yn fwy na hynny, mae'r gyfrol yn fwrlwm o hanes y teulu a'i gymeriadau direidus, hwyl ei blentyndod yn y 1950au, a chyffro yr antur yr arddegau ar gefn moto-beics efo'r hogia, heb sôn am garu mewn cwch gydag ambell hogan a chamu i fyd actio pan nad oedd ond yn dair ar ddeg oed. Mae Gareth yn ysgrifennu yn deimladwy am deulu ac mae yma ddigon o hiwmor hefyd, yn enwedig wrth iddo hel straeon tu ôl i'r llenni am y gwaith actio a'i gwnaeth yn enwog dros y blynyddoedd, sy'n cynnwys Deg i Dragwyddoldeb, Chwalfa, Pen ei Dennyn ac wrth gwrs, yr anfarwol Torri Gwynt.