Cyfres Roli Poli: Nan a'r Sioe Fawr
Does dim llonydd i'w gael i Nan, yr ast ddefaid. Mae hi wrth ei bodd yn helpu Defi ar fferm Ty'n Rhiw. O hel y defaid o'r mynydd i gwrso a chorlannu lawr ar glôs y fferm, does neb yn well yn ei gwaith na Nan.
Ond, a hithau'n fore'r Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae yna broblem wrth i Nan sylweddoli fod Huw yr hwrdd ar goll...