Cafodd D. T. Davies brofiadau sy'n anodd i ni eu dychmygu. Bu'n dyst i olygfeydd creulon a thorcalonnus fel milwr ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd. Bellach mae yn ei nawdegau hwyr ac mae'n adrodd ei stori anhygoel yn y gyfrol hynod hon. Mae D. T. Davies yn olrhain ei daith o ddyddiau ei hyfforddiant yng ngogledd Cymru i dir anial yr Aifft. Bu'n rhan o frwydr waedlyd Ynys Creta, yng ngwlad Groeg, lle cafodd ei gipio gan y Nazïaid a threulio'r tair blynedd nesaf yn garcharor rhyfel. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaeth y dyn ifanc, cyffredin hwn o Sir Gâr ei ganfod ei hunan mewn sefyllfa gwbl anghyffredin yng nghrafangau'r gelyn ar dir estron. Bu'n gaeth mewn gwersylloedd a charchardai yn Awstria, Hwngari ac Iwgoslafia. Dros saith deg mlynedd wedyn mae'r caledi, yr erchyllterau, y dioddefaint a'r drewdod yn dal yn boenus o fyw yn ei gof. Ond mewn caethiwed, roedd un peth yn ei gynnal ar hyd yr amser - yr ysfa i ddianc i ryddid.