Adolygiadau
Mae'n fwy na nofel – mae'n brofiad llenyddol hollol newydd ac mae'n llenwi'ch pen. Amrwd, cynnes, yn llawn ergydion caled a chyffyrddiadau meddal, mae pob tudalen yn brofiad emosiynol.
- Manon Steffan Ros
Mae 'na rai llyfrau sy'n cydio ynoch chi fel gefail ac yn gwneud i chi anghofio anadlu. Dydi o ddim yn digwydd yn aml. Roedd 'Awst yn Anogia' yn un, yn bendant, a rŵan, dyma un arall sydd wedi fy ysgwyd i'r byw.
- Bethan Gwanas, Blog Bethan Gwanas
Mae gan yr awdur lais ffres ac mae ganddi ddawn dweud gwreiddiol sy'n ffraeth iawn ar adegau ac yn ddwys iawn dro arall – ond bob amser yn dal ein sylw. Daw'r cwbl at ei gilydd i gynnig profiad darllen pwerus a chwbl unigryw yn y Gymraeg.
- Son am Lyfra, Blog Son am Lyfra
Bobol bach, fe wnes I fwynhau hon!! Nofel hollol wahanol I unrhyw beth dwi wedi darllen o'r blaen. Nofel ysgytwol, syfrdanol, cyffrous, diddorol,crefftus..........does dim digon o ansoddeirie!!
- Hefina Davies, Clwb Darllen Cymraeg, Facebook
Dwi'n eistedd yn fan hyn, oriau ar ôl gorffen nofel gyntaf Megan Angharad Hunter, tu ôl i'r awyr, yn dal i deimlo fel petai rhywun wedi fy nhroi i tu chwith allan neu fy rhoi drwy flendar trydan! Mae'n gyfrol syfrdanol, ingol o brydferth a'r geiriau gwaedu fel enfys amryliw o emosiynau ar draws y ddalen... Wrth adolygu nofel, mi fydda i'n arfer troi cornel rhyw dudalen neu ddwy sydd wedi fy nghyffroi neu fy nghyffwrdd, ond mae tu ôl i'r awyr yn edrych fel darn o origami wedi troi cymaint ohonynt... Yn ogystal â bod yn chwip o nofel ddifyr, y mae hefyd yn ddarn o lenyddiaeth ac iddo haenau o ystyr a themâu na theimlaf fy mod prin wedi eu hamgyffred eto. Mae'r cymeriadau'n teimlo fel pobl go iawn, ac roedd bod yn dyst i'w hanawsterau'n brifo.
- Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn
Ro'n i yn fy nagrau fwy nag unwaith wrth ddarllen.
- Lico Llyfre Lot, Instagram
Mae darllen tu ôl i'r awyr yn brofiad bythgofiadwy. Llwydda'r awdur i ddal ein lleisiau ni fel pobl ifanc, ac i adlewyrchu ein bywydau.
- Kayley Sydenham, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Lysh,cymru
Er bod y nofel yn plymio i ddyfnderoedd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc (a'u rhieni), mae yma harddwch a chomedi yn ogystal â thrasiedi. Mae'r nofel yn amlwg yn deillio o ehangder dychymyg empathig yr awdur, ac mae'n disgleirio ag angerdd dros gelf weledol a cherddoriaeth... [Mae] Megan Angharad Hunter yn awdur eithriadol o ddawnus ac yn llais pwysig ar gyfer ei chenhedlaeth. Ymddengys ei bod wedi darganfod ei hadenydd fel awdur, ac mae'r nofel ysgytwol hon yn gyfraniad arloesol i'r sgwrs am iechyd meddwl yng Nghymru, mewn cyfnod lle mae trafodaeth o'r fath yn bwysicach nag erioed.
- Angharad Penrhyn Jones, O'r Pedwar Gwynt
Dyw hon ddim yn nofel, mae'n brofiad emosiynol. Dwi 'di crio a chwerthin, o'n i'n methu rhoi fe lawr. Un o'r llyfrau gorau fi 'di darllen ers achau.
- David Williams, Trydar
Ti'n gwbod pan ti'n cal llyfr newydd a ti ffili rhoi e lawr? Di bod yn darllen hwn ers neithiwr. Mae'n wych. Mae'n ffraeth. Mae'n onest. Mae'n brifo. Mae'n ddisglair. Heb ddarllen rhywbeth tebyg yn Gymraeg o'r blaen. Brava Megan Angharad
- Bethan Jenkins, Trydar
Dyma nofel rydych chi ANGEN ei darllen! Anhygoel bod Megan wedi llwyddo i gyrraedd a mynegi meddyliau ei chymeriadau mor fanwl a mor driw. Llongyfarchiadau Megan!
- Cant a Mil, Caerydd, Trydar
Newydd orffen hwn. Waw,
- Geraint Lovgreen, Trydar
Methu'n lan â dod o hyd i'r geiria i gyfleu pa mor ysgytwol ydi'r nofel ma. Mai'n llawn tlysni ac ergydion, a dwi methu stopio meddwl am onestrwydd ei chymeriada. Ma nhw'n teimlo mor wir â'r byd o'n cwmpas ni. Waw!
- Cadi Dafydd, Trydar
Mam bach. Am nofel! Llongyfarchiadau Megan Angharad - anhygoel!
- Awen Schivone, Trydar
Sobreiddiol, rhyfeddol. Yn wahanol iawn i Megan Angharad Hunter, does gen i jyst mo'r geiria' i wneud cyfiawnder â'r nofel 'ma. Mae hi'n gwbl ddigyfaddawd ac eto'n dlws, dlws a dwi'n dal yn syfrdan ar ôl ei gorffen hi.
- Nia Peris, Trydar
Newydd orffen hon gan Megan Angharad ac OMB oedd Manon Steffan Ros yn iawn efo'i dyfyniad! Fi'n mess ar ôl gorffen hi - dyle pawb'i darllen
- Elan Elidyr, Trydar
Gwych o lyfr!! Dylsa fod ar rhestr TGAU Cymraeg, ma pobl ifanc angen cwrdd Anest a Deian
- Emily, Trydar
Newydd orffan darllen y nofel 'tu ôl i'r awyr' Megan Angharad Hunter WAW! Y cwbwl fedrai ddeud ydy ategu geiriau Manon Steffan Ros "...ysgytwol ..pob tudalen yn brofiad emosiynol." Darllenwch hi!
- Shoned Wyn Jones, Trydar
newy' orffen darllen hwn gan Megan Angharad Hunter ⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ anhygoel, hollol hollol anhygoel. rioed di darllen nofel fel hon o'r blaen.
- Elgan Rhys, Trydar
Cyfres Twilight oni'n darllan yn fform ffaif, Oedd bach yn broblematig achos oni'n meddwl mod i am ddisgyn mewn cariad 'fo vampire. Dwi mor jelys o'r pobl ifanc sy'n ca'l darllen "Tu ôl i'r awyr" a clywed llais ei hunain! Llongyfs Megan Angharad! Ngl, nofel anhygoel o wych
- Mari Elen, Trydar