Wal (elyfr)
Nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi. Mae'r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant dysgu darllen. Wrth i'r nofel fynd rhagddi, mae ffont y geiriau yn mynd yn llai, sef arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn. Yn Wal mae'n arwydd o'r prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani hi ei hun a theflir goleuni ar y tywyllwch a chodir pontydd yn lle waliau.