Llyfr Lliwio Cadi
Casgliad hyfryd o luniau tylwyth teg a deinosoriaid, creaduriaid y môr a'r Celtiaid o 4 llyfr cyntaf Cyfres Cadi gan Bethan Gwanas.
Mae'r arlunydd Janet Samuel wedi paratoi 23 o luniau i chi eu lliwio, ac ambell bos hefyd i'ch cadw'n brysur.
Y llyfr perffaith i blant bach, plant hŷn a phlant mawr, mawr sy'n hoffi lliwio!