Adolygiadau
"Yn Babel llwyddodd Ifan Morgan Jones i gadw cydbwysedd rhwng adrodd stori garlamus a thrafod pynciau a syniadau dyfnach. Trwy wneud hynny lluniodd nofel sy'n dalp o adloniant deallus a sylweddol, ac sy'n dal drych i'r gorffennol ac ar yr un pryd yn adlewyrchu ein cyfnod dyrys ni,"
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
"Heb unrhyw amheuaeth, dyma un o nofelau mwyaf cyffrous 2019."
- Dafydd Morgan Lewis, Cylchgrawn Western Mail
"Un o gryfderau'r nofel yw'r darlun byw iawn a geir o fyd newyddiadura ac argraffu yng Nghymru oes Fictoria, nid yn unig o'r dulliau gweithio a sŵn ac oglau'r gweithle ond hefyd y broblem gynyddol o orfod cystadlu gyfa chyfnodolion Saesneg... Er bod Babel yn cyffwrdd â chwestiynau cwbl ganolog i Gymru oes Fictoria, maen nhw'n dal yn sobor o berthnasol."
- Ceridwen Lloyd-Morgan, O'r Pedwar Gwynt
"Werth ei ddarllen heb unrhyw amheuaeth."
- Catrin Beard, Trydar
"Nefi, dwi'n mwynhau hon. Stori sy'n gwau a throi corneli annisgwyl. Clincar o nofel agerstalwm (steampunk)"
- Bethan Gwanas, Trydar
"Newydd orffen darllen y drên wib yma o nofel ac yn teimlo'n reit fyr fy ngwynt! Llongyfarchiadau fil Ifan Morgan Jones. Sgwennu disglair, a chymaint i gnoi cil arno. Wrth fy modd efo'r elfen newyddiadurol ynddi."
- Annes Glynn, Trydar
Chwip o nofel! Cyfuniad campus o hanes, dychymyg, antur, angerdd ac ing .... delwedde ac iaith gyhyrog yn gyfrwng i gymaint o themâu cyfoes ..... wow - diolch a llongyfarchiade Ifan Morgan Jones
- Llio Penri, Trydar
"Rwy'n annof pawb i fynd i'r afael â Babel. Mae'n swmpus, ond yn ein tynnu i mewn i'w byd yn fedrus. Nid yw fyth yn brin o antur a difyrrwch a digrifwch, ac mae hi hefyd yn trin a thrafod ystôr eang o synaidau a chwestiynau deallusol difyr mewn modd na fydd yn colli neb. Yn hynny o beth, mae hi'n cyflawni cryn gramp."
- Llŷr Gwyn Lewis, Y Cymro Hydref 2019
Mae'n ddifyr tu hwnt, yn gyffrous... bobl bach mae hi'n carlamu ymlaen.
- Ion Thomas, Y Silff Lyfrau
"Mae'n nofel gyffrous a thywyll. Ceir ynddi gymeriadau cofiadwy a chryf; o Sara, y newyddiadurwraig ifanc ac ysbrydoledig, i Mr Glass, Rupert Murdoch ei ddydd. Mae'r nofel hefyd yn cael ei gyrru ymlaen ar garlam gan blot a naratif cryf mewn iaith gyhyrog ac egnïol. Os am stori dda, darllenwch Babel da chi! ... Un cwestiwn mae'r nofel yn ei ofyn yw beth oedd rôl yr enwadau ac unigolion yn yr ymdrech i drechu anghyfiawnderau cymdeithasol a gwleidyddol yr oes. Yn hynny o beth, felly, mae'n nofel hynod o gyfoes a pherthnasol i'n hoes ni..."
- Cynan Llwyd, Y Tyst
"Dwi'n rhyfeddu at ddawn sgwennu'r awdur. Roeddwn wir yn methu rhoi'r llyfr i lawr ar ôl y penodau cyntaf; wnes i ddim strôc o waith am oriau, dim ond darllen... Fel dwedodd rhywun, "Taswn i'n gwybod mlaen llaw mai nofel steampunk/agerstalwm oedd hon, fyddwn i ddim wedi'i darllen hi." A dyna brofi eto bod angen anwybyddu labeli ar lyfrau."
- Esyllt Maelor, Y Wawr Gaeaf 2019
"Ar wahan i'r mwynhad pur o ddarllen nofel swmpus mewn Cymraeg cyhyrog, fe ddysgais gymaint am y cyfnod... Mae gen i barch mawr at [yr awdur], a dwi wedi gwirioni ar ei gampwaith diweddaraf, fy mlas cyntaf o 'agerstalwm'."
- Angharad Tomos, Yr Herald Cymraeg
"The book is cleverly and knowingly constructed along the lines of a Russian doll, with reality contained within fantasy which then peels back to reveal another layer of reality... a playful, sprawling tale, animated by people railing against social injustice and trying to right political wrongs. It underlines the growing status of its young author as a sort of Daniel Owen for our times, telling tales with an ebullient narrative gift, but always finding something which connects with the contemporary, making his stories properly and meaningfully relevant.
- Jon Gower, Nation.cymru