Cyfrol o atgofion a sylwebaeth wleidyddol gan yr awdur a'r ymgyrchydd amlwg, Simon Brooks. Ceir dadansoddiad treiddgar o'r ardaloedd Cymraeg wrth i'r awdur ddilyn clwb pêl-droed Porthmadog gyda'i fab yn ystod tymor 2017-18.
Mae'n ymweld a sawl ardal wrth ddilyn y clwb, yn dod i nabod y cefnogwyr gan werthfawrogi'r gymdeithas mae'n dod yn rhan ohoni. Yr un pryd mae'n trafod ei rwstredigaethau fel Cynghorydd Tref ym Mhorthmadog ac yn trin a thrafod sefyllfa datganoli a dirywiad yr iaith Gymraeg, ac mae hefyd am y tro cyntaf yn nodi pethau personol am ei waith, ei fywyd fel tad, a'i ymgyrchoedd gwleidyddol yn y gorffennol...