Dyma ddasiad o hunangofiant Nigel Owens, Hanner Amser, mewn penodau byr, gyda lluniau du a gwyn.
Mae Nigel Owens, un o reffaris rygbi gorau'r byd, yn sôn yn onest iawn am ei blentyndod, ei waith, ei deithiau, ei deulu, ei iselder a'i rywioldeb.
Cyfres Amdani – cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
Mae'r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Bydd y gyfres hon yn llenwi'r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.
Bydd geirfa ar waelod pob tudalen, yn dilyn canllawiau'r gyfres, yn ogystal â 12-15 o ffotograffau lliw.