Bu Cledwyn Hughes yn aelod seneddol Môn rhwng 1951 a 1979 ac roedd yn ffigwr amlwg yn llywodraethau Llafur 60au a 70au'r ganrif ddiwethaf, ac yna'n Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi.
Dyma gyfle i fwrw golwg yn ôl dros yrfa un y mae'n rhaid ei ystyried fel yr aelod amlycaf oll o adain Gymraeg a Chymreig ei blaid yn ei ddydd. Roedd ganddo bersonoliaeth hynod o hoffus, fel y dengys ei gofiannydd, Dr D. Ben Rees, ac roedd yn boblogaidd gan aelodau pob plais yn San Steffan, yng nghylchoedd Prifysgol Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac ymysg trigolion Ynys Môn. Gofalodd gyflwyno hanfodion Anghydffurfiaeth Gymraeg Gristnogol yn ei anerchiadau a'i bregethau ledled yr ynys.
Mae'r cofiant cynhwysfawr hwn yn edrych ar hanes Cledwyn, mab y mans o Gaergybi gyda'i gefndir Rhyddfrydol, yn cael ei ddenu'n wr ifanc gan Blaid Cymru cyn bwrw'i goelbren gyda'r Blaid Lafur. Croniclir ei gyfraniad fel aelod dros Ynys Môn, ei ymwneud â thrychineb Aberfan, Deddf Iaith 1967, yr Arwisgo yn 1969, y taro bargeinion gydag Aelodau Seneddol Plaid Cymru ddiwedd y 70au, a'i arweiniad ar fater sefydlu S4C.