Gyrru Drwy Storom (elyfr)
Cyfrol arloesol sy'n ymdrin â iechyd meddwl. Mae 1 o bob 4 yn dioddef ac yma cawn hanes profiadau 11 o bobol sydd wedi cael eu heffeithio, yn eu geiriau eu hunain, mewn cerddi, llythyrau, dyddiaduron ac ysgrifau. Er bod stigma ynglŷn â'r pwnc, dyma rai sy'n trafod y salwch yn ddiflewyn ar dafod. Mae'r profiadau'n ddirdynnol ond yn dangos bod modd gwella a bod yn llawn gobaith.