"Does ond un Non Eleri," meddai un o'r bobol oedd yn ei nabod hi orau am y bencampwraig dalentog hon o Bontarddulais. Ac o edrych ar yr hyn mae wedi ei gyflawni mewn pedair camp - rygbi, jiwdo, reslo a chodi pwysau - mae geiriau Wncwl Griff yn sicr yn wir.
Non Evans yw un o chwaraewyr rygbi menywod amlycaf a mwyaf llwyddiannus Cymru. Enillodd ei chap cyntaf yn erbyn yr Alban yn 1996 ac, erbyn hyn, mae hi wedi ennill 87 o gapiau dros ei gwlad a sgorio'r nifer uchaf o bwyntiau a cheisiau dros Gymru a thrwy'r byd mewn rygbi menywod rhyngwladol.
Yn ogystal â llwyddo ar y cae rygbi mae Non wedi cynrychioli Cymru a Phrydan mewn jiwdo, reslo a chodi pwysau gan ennill dwy fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad mewn jiwdo.
Ond fuodd bywyd ddim yn hawdd i Non, ac yn ei hunangofiant mae'n darlunio yr ymdrech, y rhwystredigaeth a'r siomedigaethau wrth iddi frwydro ei ffordd i'r brig - o drio ffitio fewn yn ysgol ferched Howells, Caerdydd, i'w thriniaeth annheg ar y gyfres Gladiators ar ITV a'r frwydr i ailennill ei ffitrwydd ar ol anaf difrifol i'w choes wrth chwarae rygbi dros Gymru. Mae hi hefyd yn lleisio ei barn yn blaen ar drefniadaeth yr Undeb Rygbi o gem y menywod yng Nghymru.
Dyma lyfr am Non y gystadleuwraig, y gyflwynwraig a'r fenyw wrth iddi siarad yn onest am ei bywyd proffesiynol a phersonol. Mae hwn yn hunangofiant onest a chignoeth gan bencampwraig ifanc hynod o dalentog ac unigryw.