Trot y Gaseg, Y Ceiliog Gwyn, Dyddiau Hyfryd - dyma enwau swynol rhai o'r ceinciau y cenid yr hen garolau Plygain arnynt. Mae rhai ohonynt yn dal yn boblogaidd heddiw, eraill yn haeddu cael eu codi o'r llwch a'u canu gan genhedlaeth newydd o garolwyr. Beth yn well i'w drysori na charolau Nadolig unigryw ein cenedl? Dyma gyfrol na -ddylai'r un aelwyd fod hebddi.
Cynnwys:
Yr Aderyn
Difyrrwch Gwyr y Gogledd (Llon)
Y Ceiliog Gwyn (neu Clarendon)
Ewyllys Da i Ddyn
Daeth Blwyddyn Eto i Ben
Clywch Lais Nefolaidd Lu
Cloch Erfyl
Sybylltir
Ceiliog Gwyn
Trot y Gaseg
Carol Wil Cae Coch
Carol y Swper
Y Glaswelltyn
Drwy Rinwedd Dadleuaeth
Difyrrwch Gwyr y Gogledd (Lleddf)
Betty Brown
Carol Eliseus
Teg Wawriodd Boreddydd
Ar Gyfer Heddiw'r Bore
Dyddiau Hyfryd
Belle Isle March
Ar Dymor Gaeaf
O Deued Pob Cristion
Ymdaith Rochester