Hen Faledi Ffair
Casgliad bychan o faledi'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn a phob un ohonynt yn sôn am ryw digwyddiad neu'i gilydd a achosodd gyffro - mawr neu fach - yng Nghymru yn ystod y ganrif honno. Ar bwys eu diddordeb hanesyddol y cyhoeddir hwy yma ac nid oherwydd unrhyw werth llenyddol sydd ynddynt. Ar gyfer eu canu ar ben ffair yn y stryd y lluniwyd hwy, ac yn aml y cantwr ei hun fyddai awdur y geiriau. Gwerthid hwy wedyn ar ffurf pamffledi bychain ymhlith y gwrandawyr ac o ddrws i ddrws.