Ysgrife'r Randibŵ
Corrisa oedd y discyfyri fwya wnes i 'rioed (darllennwch yr hanes yn yr ysgrif gynta). Ac os gwyddoch chi am awdur neu awdures sy'n fwy talentog na hi am sgrifennu mewn tafodiaith gyfoes, mi rydw i'n fodlon talu am ginio i chi yn y Randibŵ.
Ond dim tafodiaith ydi hwnna, ond bratiaith, meddai'r piwrists ieithyddol yn eich plith chi. Scersli bilîf. Fydd Corrisa byth farw tra bod 'na bobol ym Machynlleth yn siarad Cymrêg. Dyma i chi iaith go iawn, nid rhyw gasgliad o eiriau sy wedi marw stalwm, fel y cewch chi mewn darnau tafodiaith pur fel Pwll Deri. Dyma beth ydi Cymrêg byw.
Pwy ydi Corrisa? Dyna'r cwestiwn ges i ganwaith pan oedd hi'n fyw. Mi fedra i ateb ŵan. Chi, bobol Mach a bro Ddyfi oedd (ac ydi) Corrisa. Nid jyst eich iaith chi, ond eich syniade chi a'ch rhagfarne chi. Weithie mae hi'n ddigri; weithie'n ddigwilydd fel ci swîp.
Waeth i mi gyffesu, mi golles i lawer o gwsg o'i hachos hi. Mi roedd rhai'n sgwennu llythyre cês, rhai'n gwgu ar strît Maen-gwyn ac ambell un yn bygwth twrne hyd yn oed! Na, dydi mwynder Maldwyn ddim yn fêl i gyd a dydi'r Blewyn Glas na bro Ddyfi ddim run fath ar ôl colli Corrisa.
Cyril Jones.