Alwyn Evans
Ganwyd a magwyd Alwyn Evans yn Sir Feirionnydd cyn symud, wedi'r Rhyfel, i lawr i Gaerdydd. Dilynodd yrfa ym myd addysg cyn ymddeol - i Dregarth i ddechrau, ac yna'n ôl i Gaerdydd. Yn ogystal â 'Hogyn Bryn Moel, fe gyhoeddodd un llyfr arall, 'From Wales to Gwalia' (Hesperian Press), am hanes mwynglawdd aur Sons of Gwalia yng Ngorllewin Awstralia.