Gwion Hallam
Ganed Gwion Hallam yn Abertawe yn 1973. Maeメn byw bellach yn y Felinheli gydaメi wraig Eleri, aメi ddau fab bach, Noa a Moi. Mynychodd Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Buメn byw yn y gogledd ers gadael y brifysgol lle yr astudiodd ysgrifennu creadigol o dan John Rowlands a Mihangel Morgan. Mae wedi gweithio mewn sawl maes, gan fod yn athro, yn weithiwr ieuenctid ac yn gyflwynydd teledu. Ers iddo ennill Coron Eisteddfod yr Urdd, Bro Maelor yn 1996 mae wedi sgriptio iメr teledu aメr radio ac yn 2004 cafodd gomisiwn i gyd-ysgrifennuメr ddrama lwyfan rymus Deinameit (gyda Mari Emlyn) i gwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi i blant ac yn 2005 cyhoeddodd Gwasg Gomer ei nofel gyntaf, Creadyn yn y gyfres Whap i ddarllenwyr yn eu harddegau. Enillodd y nofel honno wobr Tir Na Nog yn 2006.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
Nid oes unrhyw gofnodion yn cydweddu |