Reviews
“Ultimately, however, this is a book about the effect of Brexit on one man, his family and the wider community... there ae also themes here that will endure, particularly the author’s commentary on the impersonality of life in the modern age – of beaurocracy, of socialising in an age when everyone is busy looking at their phones, of attempting to speak to your children over Skype.”
- Ifan Morgan Jones, Nation.cymru
Llwydda i gynnal diddordeb o’r dechrau’n deg tan y gair olaf. Mae’r cymeriadau a’r cynllun yn wreiddiol a’r dweud yn sylwgar-ddychanol.
- Mererid Hopwood
Nofel dreiddgar, annwyl a doniol i oes drist Brexit
- Rhys Iorwerth
“Mae Y Bwrdd yn wych! Fe wnes i ei darllen mewn dau eisteddiad, rhwydd i’w darllen ond yr ysgrifennu’n gyfoethog. Hoffi’r naws hamddenol ar brydiau, yna sut gyflymodd y plot a’r stori. Mae hi’n nofel sydd werth ei darllen!”
- Seiriol Dawes-Hughes, Trydar
“Gobaith ynghanol llanast – cracar o nofel – diolch Iwan Rhys.”
- Aled Hughes, Trydar
“Newydd fwynhau darllen Y Bwrdd - stori gyfoes yn cael ei hadrodd mewn ffordd fywiog a darllenadwy iawn. Llongyfarchiadau i Iwan Rhys. Anrheg Nadolig perffaith, neu prynwch hi i'w darllen eich hun - mae'n ddifyr!”
- Marian Beech, Trydar