Reviews
"This book, which tracks the various initiatives by Dr Carl Clowes over the years is an interesting and revealing record of these developments. It is a volume that should be studied by anyone who is interested in the role of a committed general practitioner in the community he serves.
- Ieuan Parri, British Journal of General Practice
"Wedi ei mwynhau yn arw. Llawn straeon difyr........Yr arddull yn ddifyr a darllenadwy iawn........lluniau da iawn hefyd!"
- Angharad Tomos
Mae'n anodd credu sut y gallai unrhyw un ymgymryd â'r fenter o ddod â'r Nant yn ôl yn fyw. Ond gyda'r weledigaeth ac ychydig o help oddi wrth ei ffrindiau, mi wnaeth Dr Clowes hynny.
- Country File, BBC Radio 4
"Mae rhywun yn rhyfeddu at ei egni ac mae'n anodd meddwl am gyfrol sy'n cwmpasu profiadau mor amrywiol."
- Ioan Roberts, Cylchgrawn Barn
"Testun gorfoledd iddo yw'r rhan ganolog y bu modd iddo ei chymryd mewn cynifer o fudiadau o bwys ynghylch yr iaith Gymraeg, yn eu plith Antur Aelhaearn, Nant Gwrtheyrn, Dolen Cymru a Strategaeth Iaith. Mae'r Gymraeg yn amlwg o bwys mawr iawn iddo – ynghyd â'r drindod a fu mor allweddol iddo o'r dechrau – y genedl o gymunedau, ei yrfa fel meddyg, a'i deulu. "
- J. Graham Jones, Gwales.com
"Mae Carl yn gweld yn bell, adnabod angen ac yna yn cynllunio ar gyfer diwallu'r angen er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae'n berson penderfynol yn meddu ar rhyw wytnwch rhyfeddol a dyfalbarhad sy'n ei gynnal wrth gael y maen i'r wal. Mae Carl wedi cyflawni mewn oes yr hyn fyddai wedi cymryd deg person arall ei wneud, ac mae ganddon ni ddyled anferthol iddo fel cenedl am hynny."
- Dafydd Idris, Papur Menai
Mae llyfr Dr Clowes yn llenwi bwlch... Beth sy'n aros ar ol gorffen darllen yw cymaint y mae ffyniant yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar unigolion efo gwledigaeth ac ar wirfoddolwyr...
- Gwawr Jones, Y Casglwr, rhif 119
Ystyriwch yr Urdd, amgueddfa werin Sain Ffagan a llu o sefydliadau cyffelyb yng Nghymru a gwledydd eraill. Daw'n amlwg mai'r un peth a roddodd gychwyn i lawer ohonynt, sef breuddwyd ym meddwl un person penderfynol.
- Y Cymro