Reviews
Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg.
- Jon Gower
"... Er bod y tirlun yn gyfarwydd i ni, roedd arddull newydd yn y nofel a greodd stori afaelgar a chymeriadau credadwy a chymhleth. Rydym yn dilyn trywydd y llofruddiaethau drwy leisiau prif gymeriadau, sef y ditectifs Taliesin ac MJ, ac felly datgelir manylion eu hanes ar y cyd gyda datblygiadau'r achos mewn ffordd ddiddorol ac effeithiol tu hwnt. Yn anarferol iawn buon ni'n unfryd – roedd pawb wedi gorffen a mwynhau'r nofel ac yn ysu am gael gafael am weddill y triawd a gyhoeddir rhywbryd yn y dyfodol. Nofel berffaith am noson ganol gaeaf!"
- Simon Ward, Clwb Darllen Cymry Llundain
"Nofel seicolegol, tywyll, sy'n rhoi pwyslais ar greu awyrgylch ac edrych o dan yr wyneb yw'r rhain ac mae Alun Davies yn grefftus iawn yn creu'r ymdeimlad hwn.... Mae'n chwip o nofel gyntaf, sy'n cyrraedd diweddglo brawychus, ac roeddwn wedi llyncu abwyd y stori'n llwyr gan fwynhau'r ochr seicolegol a dod yn hoff iawn o'r ddau brif gymeriad."
- Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn, Mawrth 2019
"Ro'n i wedi pasa ei darllen yn hamddenol, ond allwn i ddim. Roedd yn rhaid i mi ddal ati, gan anghofio fy ngwaith sgwennu a gwaith tŷ."
- Bethan Gwanas, Llygad y Dydd
"Da iawn oedd [Ar Drywydd Llofrudd]... a gorau po gyntaf y cawn ni ail antur yng nghwmni Taliesin ac MJ."
- Emyr Ll Gruffudd, O'r Pedwar Gwynt – Gwanwyn 2019
"Rwy wedi wiiir mwynhau'r nofel yma. Nofel dditectif glyfar a chymeriadau gwych."
- Haf Llywelyn, Trydar
Falle mod i'n euog o ddarllen gormod o fawrion y byd ffuglen drosedd fel Coben, Grisham etc, ond rhaid mi ddweud fod 'Ar Drywydd Llofrudd' Alun Davies yn un o'r nofelau mwyaf cyfareddol i mi'i ddarllen ers tro. Nôl y nesa o Awen Meirion rwan!
- Gruffydd Emrys, Trydar
Ma hwn yn absoliwtly shit hot o lyfr! Di hedfan drwyddi. Diolch byth bo'r trioleg gen i fyd cz am gliffhanger. Top job
- Siôn Tomos Owen, Trydar
"Mae holl nodweddion arferol Scandi-noir wedi eu plethu at ei gilydd yn y nofel hon mewn ffordd gywrain a chyfrwys hefyd. Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dw i'n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf."
- Tweli Griffiths, Western Mail Weekend