Reviews
Ro'n i wedi pasa ei darllen yn hamddenol, ond allwn i ddim. Roedd yn rhaid i mi ddal ati, gan anghofio fy ngwaith sgwennu a gwaith tŷ.
- Bethan Gwanas
Nofel sy'n werth colli cwsg drosti.
- Richard Harrington
"Mae gan Alun Davies ddawn ysgrifennu ddigamsyniol – ac mae'r naratif yn symud yn gyflym a chyffrous mewn arddull ddiwastraff sy'n llwyddo i gynnal tensiwn o'r dechrau i'r diwedd."
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
Enghraifft ragorol o nofel ditectif sy'n eich cadw chi ar flaen eich set ac yn ysu i gyrraedd y diwedd.
- Catrin Beard, Rhaglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru
Hollol wych. Nes i fethu roi o lawr! A diweddglo OMB o annisgwyl... Bravo Alun Davies, mwy plis!
- Manon Steffan Ros, Trydar
Arbennig. Cangymeriad oedd prynu hwn ganol dydd yn Siop y Pethe a cholli pnawn cyfa yng nghwmni Taliesin. Sgwennu'n dda iawn. Llongyfarchiadau Alun Davies.
- Elan Closs, Trydar
Arddull syml, di-lol. Perffaith. Bydd mawr edrych mla'n at y drydydd nofel!
- Amelia, Trydar