Menna Medi
Daw Menna Medi o Lanuwchllyn yn wreiddiol, ond bellach mae wedi ymgartrefu yn y Groeslon ger Caernarfon. Mae wedi ennill naw cadair eisteddfodol, ac enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol 2001. Ffrwyth y gystadleuaeth honno yw Hogan Horni, ei nofel gyntaf. Cyhoeddodd y dilyniant Hogan Horni Isio Mwy yn 2009.