Reviews
Set in Cardiff, the familiarity offered from living in the city was appealing and often left me feeling like a fly on the wall while the subtle nuances to the interlinked stories provided a unique modern angle while also offering themes of the past. The prose drifts through the unique narrative voices in this emotive and hopeful collection; it's no surprise that Porth was close to receiving the literary medal at the 2023 National Eisteddfod.
- Rhianon Holley, Buzz Magazine
Luned Aaron has, in Porth, given us a collection of stories which, whilst short in length, have plenty of depth to both the plots and characters. A must read!
- Ant Evans, Nation.cymru
Dyma straeon di-fai o ran datblygiad, strwythur stori a chymeriadu. Heb amheuaeth, dyma feistr ar y grefft o adrodd stori.
Panorama dinesig o bobl yn gwau drwy'i gilydd, pob un â'i stori. Cyfrol fendigedig.
- Lleucu Roberts
Mae yma grefftwr o storïwr, meistr yr un digwyddiad, y ddelwedd, yr awgrym o symbolaeth a'r dweud cynnil. Campus.
- Ion Thomas
Awdur rhagorol a sylwebydd cymdeithasol craff. Mae cydymdeimlad â phobl yn hydreiddio'r gwaith cyfan.
- Menna Baines
Mae yma grefft wirioneddol yn y modd y mae Luned Aaron yn gwau bywydau'r bobl hyn at ei gilydd – er efallai nad 'gwau' yw'r
union ddelwedd, chwaith – edefyn mwy brau o lawer yw'r cyswllt
sydd rhwng Menna, Keith, Zeynep, Lisa a'r lleill. Dyna'r gamp. A dyna
pam y bydd darllen y gyfrol hon yn ei chyfanrwydd yn ychwanegu at
bleser y darllenydd.
- Meg Elis, Cylchgrawn Barn
Porth gan Luned Aaron oedd y llyfr gafodd glod mawr yn ein Clwb Darllen heno. Canmol y cynildeb, y troeon ymadrodd hyfryd, y ffordd gywrain mae'r cyfan yn cydblethu.
- Bethan Mair, Facebook
...o'r dechrau un, hawdd yw gweld y rheswm paham y daeth mor agos at y brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae safon yr ysgrifennu'n disgleirio, ac mae'r gwaith yn hynod afaelgar... Cefais flas mawr ar y gyfrol arbennig hon, ac mae'n rhaid llongyfarch Luned Aaron ar ei llwyddiant hollol haeddiannol. Melys moes mwy!
- Jo Heyde, Y Cymro