Reviews
Gŵyr pawb am ddawn yr awdures i greu prif gymeriadau benywaidd cryf… Yn sicr, dydi Rhiannon, arwres y nofel hon, ddim yn siomi… Llwydda'r awdures i fynd dan grown y cymeriadau go iawn gan gyfleu tryblith eu teimladau ynghlych breuder bywyd a'r cyfuniad cymhleth o ofn a gwrhydri.
Dyma i chi gorwynt nerthol o nofel sy'n eich sgubo yn ôl mewn hanes i 60OC a'ch hyrddio o fyd gwâr a chyfriniol derwyddon Môn i eithafion anwar a chreulon yr arena yn Rhufain. Does dim pall ar ryferthwy'r antur – diolch Bethan Gwanas am y wefr o gael darllen am hanes arwrol Ymerodraeth Rhufain yn y Gymraeg.
- Nia Heledd Williams, Cylchgrawn Barn
Beth alla i ddweud heblaw am waw, waw, waw. Anaml mae llyfr yn dy sgubo di oddi ar dy draed fel y gwnaeth hwn. Ro'n i yna, ochr yn ochr â'r cymeriadau, yn gweld yn stori o flaen fy llygaid fel petae'n ffilm. Wnes i grio, sawl tro. Wnes i deimlo emosiynau'r cymeriadau i'r byw. Wnaeth i mi fyfyrio ar fywyd a marwolaeth.
Arbennig, Gwanas, dyma dy orau hyd yn hyn.
- Rebecca Roberts, Facebook
Stori gwbl tsiampion tan ma' nhw'n cyrraedd le ma' nhw'n mynd ... yna mynd dwy gêr i fyny! Tensiwn, cwffio, gwaed, chwys, strygl, buddugoliaeth, colled a dim ond pinsied o ryw (ond nid nonsens lyfi dyfi icky) a dest y mesur iawn o ofergoeliaeth. Tipyn o seibiant i gael ein gwynt aton (er yn un anghyfforddus, llawn tensiwn) wrth iddynt symud i'r lle nesaf yna WHAMO - uffern o uchafbwynt. Crybwyll/ymddangosiadau cwbl gredadwy o gymeriadau hanesyddol a hynny o fewn yr amserlen gywir. Llyfr gwych a dwi wirioneddol wedi mwynhau ei ddarllen - mwy o'r un peth os gweli di'n dda!
- Gwawr Eilian, Facebook
Gwych! Nofel llawn cyffro ac emosiwn o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r stori yn carlamu ymlaen o un bennod i'r llall mewn arddull mor hawdd i'w darllen.
- Helena Jones, Facebook
Stori wych!
- Myfanwy Alexander, Facebook