Reviews
"Mae cyrraedd copa mynydd wastad yn deimlad gwefreiddiol!" ebycha Dewi Prysor, yr awdur, ac mae ei ffotograffau hynod o brydferth, y cyfoeth barddoniaeth sy'n britho'r gyfrol, a'r naratif egnïol, ddiddorol a gonest, agos atoch, yn cludo'r darllenydd yn syth o'r gadair freichiau i fyd angerdd a chyffro copaon mynyddoedd Cymru.
Ysbrydolwyd y gyfrol gan lyfr Dafydd Andrews, Cant Cymru (1998), am gant mynydd uchaf Cymru, o'r Wyddfa i fynydd Cyrniau Nod, y Berwyn. Mae rhestr ohonynt yn ôl eu huchder yng nghefn y ddau lyfr. Heriodd awdur y llyfr diweddaraf ei hun i ddringo'r cant rhwng 2015 a 2017. Dyma ogwydd gwreiddiol, cynhenid, gan enaid a fagwyd yn agos at lethrau'r cant.
Yn ei ragair, gosoda'r awdur ei gyd-destun trwy gyffwrdd â phwysigrwydd gwreiddiau'r tylwyth i bobl y mynydd wrth iddynt enwi plant ar ôl mynydd, cwm, afon neu lyn y fro o ble y daethant. Mae'n trafod y berthynas seicolegol rhwng pobl a'r mynydd a hen arferion uchelfannau sanctaidd. Sut mae cof a pharchedig ofn wedi treiddio i'r isymwybod, a'r elfen ysbrydol, efallai, hyd at ein genynnau ni os cyfrifwn ein hunain yn bobl y mynydd. Cydnabyddir hefyd berthynas chwedlau, llên gwerin, daearyddiaeth, a bywyd gwyllt â'r mynyddoedd.
Mae pob pennod yn trafod cadwyn o fynyddoedd; Aran, Arenig, Bannau Brycheiniog, Bannau Sir Gâr, Berwyn, Cader idris, Carneddau, Glyderau, Moelwynion, Nantlle a Beddgelert, Pumlumon, Rhinogydd, Yr Wyddfa a'i chriw, a Mynydd Du Gwent.
Am bob cadwyn o fynyddoedd, ac ambell gopa cyfagos, ceir trafodaeth fer ddisgrifiadol, sydd weithiau'n hanesyddol neu'n wleidyddol. Weithiau olrheinir ystyr neu berthynas Geltaidd enwau'r copaon, ac yna cawn ambell stori deuluol bersonol neu ddiddanol, gyda geiriau hwyliog yr awdur yn llifo'n barablus gyfforddus.
Dengys grid disgrifiadol bob taith fynydd: uchder y copa dan sylw mewn metrau a throedfeddi, rhifau mapiau Arolwg Ordnans yr ardal, cyfeirnod grid a disgrifiad o'r man cychwyn, pellter y daith mewn milltiroedd a chilometrau, hyd y daith mewn oriau, mesur ymdrech, ac yna ddisgrifiad manylach o'r daith ei hun yn gwau trwy dudalennau o ffotograffau panoramaidd wirioneddol drawiadol, heb neb arall i'w weld ar y mynydd, a'r tywydd bob amser yn baradwysaidd o braf.
Wrth gwrs, nid llyfr i dywys rhywun yn llythrennol i fyny'r mynydd mo hwn – mae ei bwysau yn gwarafun hynny, yn un peth! Ymhlith cynghorion 'Gair i gall', awgrymir mynd â map a chwmpawd i fyny'r mynyddoedd. Byddai cynnwys mapiau o'r teithiau a ddisgrifir wedi ategu profiad y ddarllenydd hefyd, petai hynny ond wrth baratoi taith, neu hel atgofion, neu freuddwydio. Caiff y beirdd dywys y darllenydd felly, a melys iawn yw darllen hen benillion Hedd Wyn, Gwaenfab, Cynddelw, Ioan Brothen, Eben Fardd, Eifion Wyn, T H Parry-Williams ac R. Williams Parry ochr yn ochr â chyfansoddiadau treiddgar yr awdur ei hun.
Dyma lyfr i ddathlu camp anhygoel yr awdur a ddringodd y can mynydd, yn bennaf ar ei ben ei hun, ac a ddewisodd rannu ei brofiad. Tybed beth fydd y llyfr hwn yn ei ysbrydoli wrth i chi droi ato?
- Mair Jones, Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.