Reviews
Cyfrol wefreiddiol o straeon sydd ag adleisiau tywyll en chwedlau coll. Roeddwn i wedi gwirioni!
- Miriam Elin Jones
This is one of the pleasures of reading these stories, the sense that there are remote parts of Wales where anything can still happen, where old gods prevail...
- Jon Gower, nation.cymru
Os yw'r byd a ddarlunnir yn dywydd, mae'r arddull yn sgleinio fel cleddyf Rigantona. Pleser i unrhyw un sydd am ddarllen Cymraeg.
- Meg Elis, Cylchgrawn Barn
"...[C]readigaethau llenyddol cwbl gyffrous a thra gwahanol i ddim a ddarllenais ers tro byd. ... [F]e allaf dystio y bydd y sawl sy'n ddigon dewr i fynd i'r afael â hi yn cael blas garw ar bori rhwng y tudalennau, gan ddymuno gwneud hynny dro ar ôl tro.
- Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com
Dwi 'di cynhyrfu'n racs - o mai god! ... Mae 'di sgwennu'n ofnadwy o dda. Mae mor bwerus. ... Ar ol bob un stori o'n i'n gorfod cael rest, achos oedd o jyst yn chwythu 'mhen i! ... Iechyd, wnes i ei fwynhau o... Dwi erioed 'di darllen dim byd tebyg iddo fo... Mae o yn aros yn dy ben di.
- Bethan Gwanas, Podlediad Colli'r Plot
Waw, mae yna wledd i'r darllenydd craff sy'n hoffi stori ddirgelwch. Ti wedi creu ryw fydysawd aml-haen, aml-wedd ac aml-realiti i ffans straeon arswyd/thrillers/Celtic Ffrîcs! Campus.
- Non Gwenhwyfar, Trydar
Mae'n chwa o awyr iach!
- Annes Glynn, Trydar
Wedi mwynhau hwn...yn fawr - y math o lyfr sy'n gofyn i gael ei ddarllen mwy nag unwaith i gael y manylion bach i gyd... Bravo!
- Alun Davies, Trydar
Coeliwch yr heip. Arswyd cosmig cynhenid Gymreig, ac etifedd haeddiannol i waith Arthur Machen. Llyfr i'w lowcio ac i'w ailddarllen efo diod cryf i sadio'r nerfau.
- Elidir Jones, Trydar