Reviews
Gwaith llenor arbennig iawn, un crefftus a gwreiddiol.
- Mererid Hopwood, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019
"Awdur [sy'n] feistr ar ei grefft... Campus!"
- Alun Cob, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019
"Mae gan Ingrid y gallu i gyfareddu o'r eiliad y cyfarfyddwn â hi gyntaf."
- Aled Islwyn, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019
"Mae'r cylchoedd yn y dŵr yn dal i ledu ymhell ar ôl gorffen darllen…"
- Dylan Iorwerth, Cylchgrawn Barn
"...Mae rhywbeth agos-atoch a chyfarwydd iawn am gynnwys y berl hon o nofel – a rhywbeth sydd eto'n eich dwyn i dir hollol anghyfarwydd... Ni ddarllenais waith y gallwn ymgolli mor llwyr ynddo ers tro, ac rwyf wedi dotio at arddull grefftus, wreiddiol a deniadol yr awdur."
- Bethan Mair, Cylchgrawn Week-End, Western Mail
"Os bu gwaith erioed fu'n haeddu darllen ac ail-ddarllen, dychwelyd a darganfod dro ar ôl tro nes i'r holl gylchoedd ddatgelu eu hunain, y nofel hon yw hi."
- Meg Elis, Golwg
"Mae cefndir tramor y nofel yn chwa o awyr iach yn ein llenyddiaeth... Mae gan Rhiannon Ifans ddawn ysgrifennu hynod."
- Meinir Pierce Jones, O'r Pedwar Gwynt
"Newydd orffen darllen 'Ingrid' ac yn ysu am ei hailddarllen yn syth! Soffistigedig, iaith a thafodiaith goeth ac agos-atoch, hiwmor cynnil, cymeriadau sy'n gafael. Mae cystadleuaeth y Fedal wedi cynhyrchu clasur arall eleni."
- Annes Glynn, Trydar
"Cyfareddol, a gwahanol i unrhyw beth dwi 'di'i ddarllen yn Gymraeg o'r blaen."
- Geraint Lovgreen, Trydar
"Ces fy nhynnu bendramwnagl i fyd Ingrid yn syth. Cymeriadau difyr, stori afaelgar a theimladwy. Nofel arbennig."
- Eiry Miles, Trydar
Mae'n lyfr anhygoel i adlewyrchu bywyd anodd rywun sy'n colli eu cof. Mae mor glyfar sut y mae wedi ei sgwennu, ac mae'n creu dryswch y cyflwr yn anhygoel, yn amrwd, ac yn emosiynol. Dwi'n teimlo fel ei fod wedi rhoi llawer gwell ymwybyddiaeth i mi a dwi'n ddiolchgar am hynny. Pwerus ofnadwy.
- Sophie Ann, Trydar