Reviews
Darlun gwirioneddol ddifyr o gyfnod na chaiff ei adlewyrchu yn llyfrau hanes Cymru – darllenwch, mwynhewch, ac os ydych yn debyg i mi fe fyddwch yn chwerthin yn uchel un funud a'r funud nesaf yn colli deigryn o dosturi.
- Tegwen Morris
Dyma ein hanes ni – gwrandewch ar eu lleisiau a chlywch eu hanesion.
- Catrin Stevens
"Mae'r ffaith fod yr hanes... wedi ei gofnodi 'yn eu geiriau eu hunain', fel mae'r is-deitl yn nodi, yn gwneud y darllen yn ddifyr tu hwnt."
- Lowri Evans, Cylchgrawn Barn
"Mae neges y llyfr hwn yn un pwysig i ni heddiw, a does ond diolch i Catrin Stevens am fynd ati i sicrhau cyhoeddiad i'r lleisiau hyn o orffennol a ddaw yn fyw unwaith eto ar ei dudalennau."
- Jane Aaron, O'r Pedwar Gwynt
"Mae cyfrol Catrin Stevens, seiledig ar brosiect hanes llafar Merched y Wawr, Hanes Menywod Cymru 1920-60 yn werth chweil."
- Meinir Pierce Jones, Trydar
"O bori drwy'r gyfrol cawn gyfle gwych i ystyried nifer o agweddau ar ein hanes diweddar na chaiff eu hystyried o fewn y cyfrolau safonol ar hanes Cymru...A cheir cymysgedd arbennig o hiwmor iach a thristwch ingol yn fynych wedi eu cyd-blethu o fewn yr hanesion hyn."
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro – Rhagfyr 2019