Reviews
Un o rinweddau mawr y gyfrol dra chyfoethog a synhwyrus hon yw ei bod yn trafod agweddau lawer ar y bardd fel gwrthwynebydd cydwybodol: ei berthynas gyda'i deulu, ei ymddangosiadau yn y tribiwnlysoedd, ei ddisgleirdeb fel myfyriwr gwyddonol, ei waith trwm fel Pennaeth Adran, ie, a'i garwriaethau, &c. Ceir yma hefyd drafod pobl amlwg y dydd a'u hymwneud â'i yrfa ac â'i fywyd personol. Nid y lleiaf o gymwynasau Dr Huws yw ei fod yn trafod rhai cerddi ac ysgrifau o waith Parry-Williams yng ngoleuni'i brofiadau gwrthryfelgar, a'i fod drwy hynny'n bwrw goleuni newydd ar weithiau lenyddol nid anghyfarwydd.
- Derec Llwyd Morgan
"Mae'r gyfrol hon yn berl o lyfr darllenadwy a difyr."
- Dr J. Graham Jones
"Rhan o gamp yr astudiaeth yw dwyn i'n sylw gymaint o dystiolaeth newydd am brofiad Parry-Williams ar lwybr unig y 'conshi'... fel dengys y llyfr ardderchog hwn, [mae] dirgryniadau'r digwyddiadau mawr yn ymdonni ar draws y blynyddoedd."
- Llion Jones, Cylchgrawn Barn, Chwefror 2019
"Astudiaeth yw hon sy'n cynnig goleuni gwreiddiol a chyffrous ar ddwy bennod ym mywyd T. H. Parry-Williams, a'r goleuni hwnnw yn ei dro yn sylfaen i ddehongli rhai o'r cerddi (Cymraeg a Saesneg) a'r ysgrifau mewn ffordd newydd a threiddgar."
- A. Cynfael Lake, Gwales
"Mae'r llyfr hwn yn gofnod manwl o safiad un dyn yn erbyn y drefn haearnaidd y bu'n rhaid iddo ei herio. Daethpwyd i gredu bellach mai pobl ddewr ac nid llyfrgwn oedd y gwrthwynebwyr cydwybodol. Bu'n rhaid iddynt wynebu dau elyn: yr awdurdodau milwrol a fynnai eu hel i'r fyddin a'r sifiliaid a fynnai eu gwawdio a'u herlid am iddynt wrthod gwisgo lifrai'r brenin. Dyma lyfr a fwynheais yn fawr, a hynny ar gorn trylwyredd ei ymchwil, eglurder a gloywder ei fynegiant a dwyster ei bwnc."
- Alan Llwyd, O'r Pedwar Gwynt
"Yng nghanol jingoistiaeth 'dathlu' canmlwyddiant y Rhyfel, fe'm trawyd yn fy nhalcen gan yr ymdriniaeth hon â gwedd arall ar ryfel. Ni fu fawr o sôn am hyn mewn gweithiau blaenorol ar fywyd Parry-Williams, chwaith – ond dyma unioni'r cam. Dyma gampwaith sy'n academaidd drylwyr ond eto mor ddarllenadwy â nofel dda."
- Iestyn Tyne, Y Stamp (ar-lein)