Reviews
Dawn brin yw medru sgrifennu'n ddifyr ac yn ddiddorol gan ddal sylw'r darllenydd o'r dechrau i'r diwedd. Mae gan Lyn Ebenezer y ddawn honno a hynny am ei fod yn feistr llwyr ar yr iaith Gymraeg ac yn medru sgrifennu'n syml ac eto'n grefftus. Mae'r gyfrol hon, fel sach nadolig Siôn Corn, yn llawn trysorau fydd yn rhoi oriau o bleser i werin ac ysgolhaig fel ei gilydd.
- Emyr Llywelyn
Yn ganolog i'r llyfr mae'r hen bont fwaog dros afon Teifi yng nghanol y pentref, lle byddai pobl yn ymgasglu i hel clecs yn y dyddiau cyn dyfodiad teledu. Byddai'r dynion yn naddu llythrennau cyntaf eu henwau ar wal y bont, ynghyd â dyddiau mewn rhai achsoion. Yn naturiol, mae hon yn gyfrol sy'n codi llawer o hiraeth am gymdeithas ffraeth a gwreiddiol a ffordd o fyw na ddaw'n ôl. Ond mae yma ddigon o ddoniolwch a hwyl i'n cadw rhag mynd yn rhy bruddglwyfus. Gallwn ddiolch fod yr hanesion wedi eu cofnodi cyn i'r atgofion, fel yr enwau ar y bont, ddiflannu am byth.
- Ioan Roberts, Cylchgrawn Barn
Hunangofiannol yw Y Meini Llafar, ar batrwm Cofion Cynnes, ac yma mae'n craffu ar yr enwau naddwyd gan y cenhedlaethau ar hen bont y pentref; rhai ohonynt yn enwau pobol y mae'n eu cofio, rhai y mae'r awdur yn dyfalu pwy oeddynt ac weithiau mae'r dyfalu'n mynd ag e i fyd ffantasi llwyr. Mae yma lu o gymeriadau a straeon amdanynt, megis hanes John Isaac a aeth i Ffair Galan Gaeaf Aberystwyth ond ni ddychwelodd adre. Ddegawdau'n ddiweddarach cerddodd i mewn i'r Llew Coch. Yn ôl y sôn, aeth i drafferth gyda'r heddlu noson y ffair, bodiodd i Lerpwl a hwylio oddi yno ar long i Ganada lle gwnaeth ei ffortiwn! A dyna Guy Morgan, Wali Tomos tîm pêl-droed y Bont cyn bod sôn am Wali Tomos; y Gwyddelod fu'n gweithio ar gynllun dŵr Llynnoedd Teifi; Raymond Osborne Jones ... ac yn y blaen. Llefarodd y meini â ni drwy gyfrwng cyfieithydd anghymharol. A diolch am ambell fflach o'r gorffennol pell. Faint sy'n deall y dywediad 'Lleuad Sypynno' heddiw? Mae'n siarad â mi, beth bynnag.
- Gwyn Griffiths, Gwales