Reviews
Y storiau yn eich cario ar rhyw don. Deallus, amlhaenog, dirdynnol.
- Darllennydd
Casgliad o straeon cyforiog o hiwmor, dychan deifiol a ffraethineb gogleisiol.
- Angharad Dafis
Mae ol crebwyll a diwylliant yr awdur i'w glywed... Mae Cymru, y Gymraeg a thynfa cymuned a bro yn ganolog i'r gyfrol...
- Aled Islwyn, Cylchgrawn Barn
Mae'r Gymraeg a'r bywyd Cymreig cyfoes yn treiddio drwy bob stori. Mae yma wreiddioldeb a dyfeisgarwch wrth ddelio â chymeriadau a sefyllfaoedd...
- John Meurig Edwards, Gwales
Llinyn thematig Jwg ar Seld yw'r Gymraeg a gwneir defnydd celfydd iawn ohoni yn y gyfrol hon, sydd yn llawn cynildeb deifiol. Mae priddioldeb gwaelodol yn eu pwyslais ar gymdiethas ddarniog ac amherffaith - ond cymdeithas gydlynol er gwaethaf popeth.
- Morgan Owen, O'r Pedwar Gwynt
Mae perlau o straeon yn y gyfrol hon!
- Bethan Mair, Prynhawn Da
Gallu chamelon-aidd Lleucu Roberts i ymdoddi i bob tafodiaith, gan felly fedru gynrhychioli cymeriadau o Gymru gyfan, sy'n ei gwneud yn awdur arbennig. Y cymeriadu yw cryfder y gyfrol hon, gyda nifer ohonynt yn aros yn y cof, Heb os 'Yr Eliffant yn y Siambr' yw perl y casgliad. Mae'r lanhawraig a'r fam sengl yn wrthgyferbyniad trawiadol i'r siwtiau stiff sy'n malu awyr yn y senedd.
- Y Stamp