Reviews
Gan fod hon yn nofel ffilmig, ddisgrifiadol iawn, mae'n briodol bod iddi drac sain cyson a da. Mae pob un o'r cymeriadau yn caru cerddoriaeth, ac yn wir darganfod jiwcbocs sy'n sbarduno'r syniad o greu'r shebeen yn y lle cyntaf..
Yr hyn sy'n drawiadol wrth ddarllen Rifiera Reu yw ei bod hi'n nofel gwbl Gymraeg ei naws, ac mae'n anodd meddwl am ei chyfieithu i unrhyw iaith arall gan fod y cymeriadau, y sefyllfaoedd a'r arddull yn gyfangwbl unigryw i'r Gymru Gymraeg. [...] Nofel ysgafn yw hi, comedi haf hirfelyn honco. Parti rhemp sy'n dathlu gwallgofrwydd bywyd ac sy'n codi dau fys afieithus ar y byd.
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
Nofel seicedelig sy'n llawn i'r ymylon o sgrifennu lysergic, siarp gyda chast boncyrs o gymeriadau lliwgar a chofiadwy, heb sôn am gonsertina o ddigwyddiadau dwl a digri.
- Cylchgrawn Golwg
Mae'n mynd dan groen y criw un wrth un - eu hanes, eu hofnau a'u gobaith, neu anobaith. Mae dynoliaeth Prysor yn amlwg i'w weld yn ei ymdriniaeth ohonyn nhw. Nofel a hanner gan awdur sy'n meddu ar ddawn y cyfarwydd.
- Cylchgrawn Golwg
Nofel seicedelig sy'n llawn i'r ymylon o sgrifennu lysergic, siarp gyda chast boncyrs o gymeriadau lliwgar a chofiadwy, heb sôn am gonsertina o ddigwyddiadau dwl a digri. Mae mynd i Rifiera Reu yn uffar o drip, lle mae rhywun yn gwingo'n anghyfforddus a chwerthin yn euog ar hyd y ffordd.
- Jon Gower,, Cylchgrawn Taliesin
Mae Dewi Prysor yn feistr ar ei dweud hi fel y mae hi... Unwaith eto mae'r awdur hwn yn cyflwyno i ni ddiwylliant bychanfyd dieithr a thlawd ei foesoldeb, difoeseg o bosib, sy'n byw ar y ffin rhwng cyfoeth anferthol a dim byd, rhwng breuddwyd a dadrith, ac sydd, er ei fod yn ein hamgylchynu, yn anweledig i ni y rhan fwyaf o'r amser. Clamp o gamp!
- Llinos Dafis, Gwales
Un o fy hoff nofelau mewn unrhyw iaith. Yr hiwmor yn rhaeadru oddi ar y tudalenau a'r holl gymeriadau mor fyw a locals 'lliwgar' tafarn y Ring. Clasur fodern go iawn.
- Llwyd Owen, Trydar