Iwan Llwyd
Enillodd Iwan Llwyd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 am ei gasgliad 'Gwreichion', ac enillodd ei gyfrol Dan Ddylanwad Wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor y Celfyddydau yn 1997. Roedd yn aelod o griw o feirdd a chantorion, yn cynnwys Geiraint Lovegreen, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys a Meirion MacIntyre Huws fu'n perfformio'u gwaith ar draws Cymru, a bu'n chwarae'n rheolaidd gyda grwpiau Steve Eaves a Rhai Pobl a Geraint Lovegreen a'r Enw Da. Cyhoeddodd y gyfrol Rhyw Deid yn Dod Miwn ar y cyd ag Aled Rhys Huws yn 2008. Bu'n teithio a darllen ei waith yn Lloegr, Canada, Iwerddon, Gwlad Pwyl a ledled cyfandiroedd America. Bu farw yn 2010.