Bet Jones
Ganed Bet Jones ym mhentref Trefor ond mae hi bellach yn byw yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 am ei nofel Craciau. Cyhoeddodd bedair nofel arall, sef Beti Bwt, Gadael Lennon, Y Nant a Cyfrinach Craig yr Wylan.