Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Blwyddyn gron o lenydda gan Sioned Erin yn cael ei ddathlu mewn llyfr

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o gerddi a rhyddiaith gan yr awdur ifanc, Sioned Erin Hughes. Mae O’r Rhuddin (Y Lolfa) yn cynnwys darn ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn ac yn ganlyniad i her bersonol gan yr awdur a ddechreuodd fore Calan 2023. Meddai Sioned Erin Hughes: 

“Doeddwn i ddim yn gallu cysgu fore Calan 2023. Un o’r pethau oedd ar fy meddwl i oedd bod yna gymaint mwy o hysbysebion yn fy nharo ynglŷn â cholli pwysau yn y flwyddyn newydd. Roeddwn i wedi laru gweld yr un hen drap yn cael ei osod bob blwyddyn, felly sgwennais gerdd ar y mater. Doeddwn i ddim wedi sgwennu lawer o gerddi cyn hynny, ond mi ges i flas garw ar y sgwennu ac fe dyfodd yr egin o syniad.”

Mae Erin yn dweud bod yr ysgrifennu wedi bod yn brofiad bendithiol, ac wedi ychwanegu at ei bywyd mewn ffordd bositif iawn. Meddai:

“Roedd llynedd yn flwyddyn fawr o wella i mi, nid cymaint yn gorfforol, efallai, ond yn bendant ar lefel emosiynol. Dwi hefyd yn grediniol bod llawer o’r gwella corfforol sydd wedi dod i’m rhan eleni, wedi dod fel rhyw ddilyniant i’r gwella emosiynol llynedd. Mae’r sgwennu wedi chwarae rhan anferthol yn hyn i gyd - mae wedi trawsnewid pethau’n llwyr.”

Mae O’r Rhuddin wedi ei thorri’n 365 darn unigol sy’n gerddi, neu’n ddarnau o lên meicro. Mae’r darnau yn llawn tynerwch ac yn trafod testunau megis natur, cyfeillgarwch, gobaith a chariad. Mae’n bosib troi at y gyfrol, darllen ambell ddarn, ei rhoi hi lawr a throi ati eto pan mae’r awydd yn taro.

“Rwy wrth fy modd gyda chyfrolau llên meicro, mae gen i gymaint ohonyn nhw fy hun! Dwi’n gobeithio y gall eraill droi at O’r Rhuddin yn y ffordd yma, a darllen darn neu ddau pan mae’r awydd yn taro. Does ‘na dal dim lawer o gyfrolau tebyg yn y Gymraeg sy’n dal y grefft, ac yn dathlu’r grefft o sgwennu’n gryno. Mae wedi bod yn braf gallu chwarae rhan fach o weld mwy o gyfrolau llên meicro yn dod drwy’r wasg,” meddai Erin.

Cyhoeddwyd y gwaith yn wreiddiol ar Instagram, gydag un darn yn cael ei rannu bob diwrnod yn 2023. Daeth y cyfrif ‘myfyrdod365’ yn boblogaidd tu hwnt a chyrhaeddodd y darnau llenyddol lawer iawn o bobl. Meddai Erin:

“Roedd yn brofiad braf iawn, O’u rhoi ar goedd, ro’n i’n gwybod y byddai’n rhaid imi lynu wrth yr addewid i fy hun. Roedd yr ymateb ar Instagram yn gwbl hyfryd. Mae pobl yn gallu bod yn eithriadol o garedig. O allu profi’r caredigrwydd hwnnw, mae’n gwneud chi’n berson llawer mwy tyner, a diolch byth am hynny. Mae angen mwy o dynerwch yn y byd - dwi wedi bod yn lwcus iawn.”

Bydd holl freindal y gyfrol yn cael ei roi i Mesen, cronfa sy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth am sut i fynd i’r afael â hunanladdiad mewn ffordd sy’n ystyriol o’r ddwy ochr - y dioddefwr sy’n profi’r afiechyd, a’r dioddefwyr o’i gwmpas, sy’n ei garu.