Yesterday, all my troubles seemed so far away,
Now it looks as though they're here to stay...
Mae'r Beatles ar eu hanterth a Liz (fel mae ei ffrindiau'n ei galw) yn ei harddegau yn darganfod rhyddid ieuenctid mewn cyfnod cyffrous yn Lerpwl - mynd i'r Picturedome, gwisgo sandals Doctor Scholl's, a phrynu recordiau a phosteri'r Beatles.
Ond mae tensiynau'n gwthio i'r wyneb. Dyw ei mam erioed wedi dygymod a'i bywyd newydd mewn gwlad arall ac ynghanol iaith estron; mae Ger, ei brawd, yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac yn genedlaetholwr; ac mae Gwilym, ei thad, yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad, wrth i gyfrinachau gael eu cadw...
Listen, do you want to know a secret,
Do you promise not to tell...?
Ganwyd Bet Jones ym mhentref Trefor. Mae'n athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni a bellach yn byw yn Rhiwlas ger Bangor. Dyma'i hail nofel sy'n ddilyniant i "Beti Bwt".