Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Costau Cludiant ac Amserlen Ddosbarthu

Rydym yn cynnig cludiant am ddim i archebion o £20 neu fwy o’r DU ar ein gwefan. Byddwn yn codi £3.00 am archebion o dan £20.

Byddwn yn codi 35% o werth yr archeb ar archebion i Ewrop, a 60% i weddill y byd.

Ein oriau agor yw 9-5 Llun-Iau a 9-4 ar Ddydd Gwener. Bydd archebion a dderbynnir ar ein gwefan y tu allan i’r oriau hyn yn cael eu prosesu ar y diwrnod gwaith nesaf. Gwneir pob ymdrech i anfon eich archeb cyn gynted â phosib*, gan ddefnyddio’r Post Brenhinol. Dylai archebion o fewn y DU gyrraedd o fewn 3 diwrnod gwaith**. Gall archebion tramor gymryd hyd at bythefnos neu dair wythnos drwy’r post awyr.

Defnyddir cludwyr i ddosbarthu parseli o fewn y DU, gan ddefnyddio gwasanaeth 48 awr.

Mae croeso i chi e-bostio neu ffonio 01970 832304 os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â’ch archeb.

* Fel arfer, bydd Y Lolfa ar gau dros gyfnod y Nadolig: byddwn yn anfon eich archeb yn syth ar ôl dychwelyd yn y flwyddyn newydd.

** Rydym yn ymwybodol bod ambell i archeb yn cymryd hirach na 3 diwrnod gwaith i gyrraedd o ganlyniad i’r nifer fawr o eitemau a brosesir gan y Post Brenhinol yn ystod y cyfnod hwn. Gofynnwn i chi sicrhau eich bod chi’n archebu mewn da bryd ar gyfer achlysuron arbennig er mwyn osgoi siom.