Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y Band of Brothers Cymraeg: Hanes catrawd Cymreig Rhyfel Gartref America

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ryfeddol sy’n adrodd hanes milwyr o gefndir Cymreig yn ystod Rhyfel Cartref America. Mae Dros Gyfiawnder a Rhyddid: Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America gan Jerry Hunter yn gyfrol ddarllenadwy sy’n adrodd hanes rhai o filwyr cyffredin y 22ain Gatrawd o Droedfilwyr Wisconsin. Mae’r gyfrol yn rhoi’r un driniaeth i un o gwmnïau’r gatrawd – Co. F, a elwid hefyd yn y Cambrian Guards ag y gwnaeth yr hanesydd Stephen E. Ambrose yn ei lyfr am Band of Brothers am gwmni o filwyr Americanaiadd ystod yr Ail Ryfel Byd.

Meddai’r awdur Jerry Hunter, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel athro ar ymweliad ym Mhrifysgol Havard:

“Nid hanesydd milwrol ydw i, ond dyma ymdrech i ymgydnabod â phersoniaethau ‘milwyr cyffredin’ a oedd yn bell o fod yn gyffredin.”

Roedd mwyafrif y milwyr yn y Cambrian Guards o deuluoedd Cymraeg ac yn medru siarad Cymraeg. Fe enillodd y Gatrawd ei hun y llysenw'r Abolitionist Regiment gan fod nifer o’i milwyr wedi cymryd safiad cyhoeddus taer yn erbyn caethwasiaeth, gan helpu caethweision i ddianc, hyd yn oed pan oedd y weithred yma yn tynnu’n groes i ddymuniad llywodraeth ac awdurdodau milwrol yr Unol Daleithiau.

“Rhaid cyfaddef bod y deunydd wedi deffro’r nofelydd ynof, ond penderfynais mai’r peth gorau fyddai ceisio glynu wrth y ffeithiau a rhoi’r flaenoriaeth i eiriau, meddwl a dychymyg y milwyr hyn yn hytrach na’m dychymyg innau. Mae hwn yn llyfr ffeithiol, ond eto rwyf yn gobeithio y daw ambell gymeriad yn fyw yn nychymyg y darllenydd,” meddai Jerry Hunter.

Man cychwyn ei ymchwil oedd ei lyfrau Llwch Cenhedloedd: y Cymry a Rhyfel Cartref America a Sons of Arthur, Children of Lincoln: Welsh writing from the American Civil War ac yna gweithio ar y gyfres ddogfen ar yr un pwnc ar gyfer Cwmni Da/S4C nôl yn 2002.

Meddai Jerry Hunter:

“Yr hyn a fachodd fy sylw am y grŵp hwn o filwyr Cymraeg ym myddin yr Unol Daleithiau oedd y ffaith bod cymaint o ysgrifau Cymraeg ganddynt wedi goroesi a bod yr ysgrifau hynny’n rhai hynod ddiddorol. Mae’n wych bod gennym gymaint o ffynonellau Cymraeg sy’n deillio’n uniongyrchol o’r profiad hanesyddol hollbwysig hwnnw.”