Dyma gyfrol ryfeddol sy'n adrodd hanes milwyr o gefndir Cymreig yn ystod Rhyfel Cartref America.
Roedd y 'Cambrian Guards' yn rhan o'r 22ain Gatrawd o Draedfilwyr Wisconsin, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg. Yma ceir darlun diddorol tu hwnt o'u helyntion yn ymladd dros gyfiawnder a rhyddid yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn hanes America. Mae straeon syfrdanol amdanynt, yn ceisio rhyddhau caethweision (yn erbyn gorchmynion oddi uchod) ac ar ganol peryglon brwydr, yn ogystal â chipolwg torcalonnus ar eu profiadau fel carcharorion yn nwylo'r gelyn ac ambell hanesyn digrif am fywyd mewn gwersyll milwrol yn y 1860au.
Mae nifer sylweddol o lythyrau ac ysgrifau y milwyr hyn wedi goroesi, a defnyddir eu geiriau Cymraeg gwreiddiol nhw i adrodd eu hanes. Llyfr ffeithiol yw hwn, ond defnyddir dawn y nofelydd i adrodd y stori gyffrous hon. Yng nghanol y sgarmesoedd mi ddewch i nabod cymeriadau a fydd yn aros yn hir yn y cof.
Dyma gampwaith arall gan y llenor a'r ysgolhaig Jerry Hunter sydd wedi dod â'r stori unigryw hon ynghyd mewn modd hynod gelfydd a darllenadwy.