Dyma gasgliad cyntaf Hywel o gerddi. Ysbrydolwyd y teitl Banerog gan ei brofiadau yn ystod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Mae yma gerddi ar amrywiaeth o bynciau a mesurau, yn gywyddau, englynion, sonedau, awdlau a cherddi rhydd. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymry. Ceir cerddi cyfarch traddodiadol a rhai ar gyfer achlysuron arbennig.
Mae'r gyfrol yn cynrychioli gwaith cenhedlaeth newydd o feirdd sydd yn perfformio eu barddoniaeth yn gyhoeddus, ac yn amlygu agwedd newydd tuag at yr hen broblemau sydd yn dal i wynebu Cymru a'r iaith Gymraeg.