Hywel Griffiths
Cafodd Hywel ei fagu ger pentref Llangynog, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl derbyn ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog, Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Cymru Aberystwyth, mae bellach yn gweithio fel Darlithydd ym maes Daearyddiaeth. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ym Mon yn 2004, a Sir Gâr yn 2007, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Gler a thîm ymryson y Deheubarth, a bu'n rhan o'r criw a fu ar daith Crap ar Farddoni yn 2006. Mae'n aelod gweithgar yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a bu'n Gadeirydd y mudiad am gyfnod.